OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 2068 (Cy. 311)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 12A(4) a (5) a 12B(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2016.
Mae adran 11(2)(a) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgownt treth gyngor pan na fo gan annedd unrhyw breswylydd. Mae adrannau 12A a 12B o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014) yn galluogi awdurdodau bilio (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol), o dan amgylchiadau penodol, i ddatgymhwyso’r disgownt a chymhwyso swm uwch o ran treth gyngor.
O dan adran 12A o’r Ddeddf caiff awdurdodau bilio gymhwyso’r swm uwch i anheddau gwag hirdymor. Mae annedd yn “annedd wag hirdymor” os yw wedi bod heb ei meddiannu ac i raddau helaeth heb ei dodrefnu am gyfnod parhaus o un flwyddyn o leiaf (adran 12A(11)). O dan adran 12B caiff awdurdodau bilio gymhwyso’r swm uwch i anheddau a feddiennir yn gyfnodol pan fo amodau penodol yn gymwys. Yr amodau hynny yw nad oes gan yr annedd unrhyw breswylydd a bod yr annedd wedi ei dodrefnu i raddau helaeth (adran 12B(2)).
Yn y naill achos a’r llall caiff yr awdurdod bilio benderfynu bod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anheddau i’w gynyddu hyd at 100%. Mewn cysylltiad â chartrefi gwag hirdymor, caiff yr awdurdod bilio bennu canrannau gwahanol ar gyfer anheddau gwahanol ar sail hyd yr amser y maent wedi bod yn wag.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r dosbarthau ar annedd na chaniateir i awdurdod bilio wneud penderfyniad mewn perthynas â hwy i gymhwyso swm uwch o ran treth gyngor.
Mae rheoliadau 4, 5, 6 a 7 yn rhagnodi dosbarthau ar annedd at ddibenion adran 12A(4) (anheddau gwag hirdymor) ac adran 12B(5) (anheddau a feddiennir yn gyfnodol).
Mae rheoliadau 4 a 5 (Dosbarth 1 a 2) yn eithrio, am gyfnod hwyaf o un flwyddyn, anheddau sydd ar y farchnad i’w gwerthu neu i’w gosod. Pan fo annedd wedi elwa ar eithriad o dan Ddosbarth 1 ni fydd hawl iddi gael cyfnod eithrio pellach hyd nes y bydd yr annedd wedi ei gwerthu. Pan fo annedd wedi elwa ar eithriad o dan Ddosbarth 2, ni fydd yn gymwys i gael cyfnod eithrio pellach onid yw wedi bod yn ddarostyngedig i denantiaeth a roddwyd am dymor o chwe mis neu fwy.
Mae rheoliad 6 (Dosbarth 3) yn eithrio rhag y swm uwch anecsau sy’n cael eu defnyddio fel rhan o’r brif breswylfa neu annedd. Mae’r eithriad yn rheoliad 7 (Dosbarth 4) yn gymwys i annedd a fyddai’n unig neu brif breswylfa person ond sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person hwnnw’n preswylio mewn llety’r lluoedd arfog.
Mae rheoliadau 8, 9 a 10 yn rhagnodi dosbarthau ar annedd at ddiben adran 12B(5) (anheddau a feddiennir yn gyfnodol).
Mae’r eithriad yn rheoliad 8 (Dosbarth 5) yn eithrio lleiniau a feddiennir gan garafannau ac angorfeydd a feddiennir gan gychod. Mae rheoliad 9 (Dosbarth 6) yn gymwys i anheddau y mae eu meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sy’n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn blwyddyn. Bydd y dosbarth hwn yn cynnwys cartrefi neu gabanau gwyliau pwrpasol sy’n ddarostyngedig i amod cynllunio sy’n cyfyngu ar feddiannaeth gydol y flwyddyn. Mae’r eithriad yn rheoliad 10 (Dosbarth 7) yn gymwys i anheddau cysylltiedig â swydd ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol pan fo’r preswylydd arferol yn preswylio mewn llety cysylltiedig â swydd. Mae ystyr “anheddau cysylltiedig â swydd” wedi ei roi yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 2068 (Cy. 311)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Rhagfyr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym 31 Ionawr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12A(4) a (5) a 12B(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r
Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru)
2015 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Dosbarth 1” (“Class 1”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 4;
ystyr “Dosbarth 2” (“Class 2”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 5;
ystyr “Dosbarth 3” (“Class 3”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 6;
ystyr “Dosbarth 4” (“Class 4”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 7;
ystyr “Dosbarth 5” (“Class 5”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 8;
ystyr “Dosbarth 6” (“Class 6”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 9;
ystyr “Dosbarth 7” (“Class 7”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 10;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
mae cyfeiriadau at briod person yn cynnwys cyfeiriadau at berson sy’n byw gyda’r llall fel petai’n briod i’r person hwnnw; ac
mae cyfeiriadau at bartner sifil person yn cynnwys cyfeiriadau at berson o’r un rhyw sy’n byw gyda’r llall fel petai’n bartner sifil y person hwnnw.
Dosbarthau rhagnodedig
3.—(1) Mae Dosbarthau 1, 2, 3 a 4 wedi eu rhagnodi’n ddosbarthau ar annedd at ddibenion adrannau 12A(4) a 12B(5) o’r Ddeddf.
(2) Mae Dosbarthau 5, 6 a 7 wedi eu rhagnodi’n ddosbarthau ar annedd at ddiben adran 12B(5) o’r Ddeddf.
Dosbarth 1
4.—(1)(1) Mae’r dosbarth ar
annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn
(“Dosbarth
1”)
wedi ei ffurfio o bob annedd
sy’n dod o fewn
is-baragraff (a) neu (b) onid yw wedi bod yn annedd
o’r fath am
gyfnod o un flwyddyn neu fwy—
(a) annedd sydd yn cael ei marchnata i’w gwerthu am bris sy’n rhesymol ar gyfer ei gwerthu;
(b) annedd lle mae cynnig i brynu’r annedd wedi ei dderbyn (p’un a yw’r derbyniad yn ddarostyngedig i gontract ai peidio) ond bod y gwerthiant heb ei gwblhau.
(2) Ar ôl diwedd cyfnod a eithrir nid yw annedd yn dod o fewn Dosbarth 1 am gyfnod pellach onid yw’r annedd wedi bod yn destun trafodiad perthnasol.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae marchnata annedd i’w gwerthu yn cynnwys marchnata i werthu—
(i) y rhydd-ddaliad; neu
(ii) lesddaliad am dymor o saith mlynedd neu fwy;
(b) y “cyfnod a eithrir” (“excepted period”) yw’r cyfnod pryd y mae annedd yn dod o fewn Dosbarth 1;
(c) ystyr “trafodiad perthnasol” (“relevant transaction”) yw trosglwyddiad wrth werthu’r rhydd-ddaliad neu drosglwyddiad wrth werthu’r lesddaliad am dymor o saith mlynedd neu fwy.
Dosbarth 2
5.—(1)(1) Mae’r dosbarth ar
annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn
(“Dosbarth
2”)
wedi ei ffurfio o bob annedd
sy’n dod o fewn
is-baragraff (a) neu (b) onid yw wedi bod yn annedd
o’r fath am
gyfnod o un flwyddyn neu fwy—
(a) annedd sydd yn cael ei marchnata i’w gosod o dan denantiaeth ar delerau ac amodau, gan gynnwys y rhent arfaethedig, sy’n rhesymol ar gyfer gosod yr annedd honno;
(b) annedd lle mae cynnig i rentu’r annedd wedi ei dderbyn (p’un a yw’r derbyniad yn ddarostyngedig i gontract ai peidio) ond nad yw’r denantiaeth wedi dechrau.
(2) Ar ôl diwedd cyfnod a eithrir nid yw annedd yn dod o fewn Dosbarth 2 am gyfnod pellach onid yw wedi bod yn ddarostyngedig i denantiaeth a roddwyd am dymor o chwe mis neu fwy.
(3) At ddiben y rheoliad hwn y “cyfnod a eithrir” (“excepted period”) yw’r cyfnod pryd y mae annedd yn dod o fewn Dosbarth 2.
Dosbarth 3
6.—(1)(1) Mae’r dosbarth ar
annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn
(“Dosbarth
3”) wedi ei
ffurfio o bob annedd—
(a) sy’n rhan o eiddo unigol sy’n cynnwys o leiaf un annedd arall; a
(b) sy’n cael ei defnyddio gan breswylydd yr annedd arall honno, neu yn ôl y digwydd, yr anheddau eraill hynny, fel rhan o’i breswylfa.
(2) At ddiben paragraff (1), ystyr “eiddo unigol” (“single property”) yw eiddo a fyddai, ar wahân i Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992([2]), yn un annedd o fewn ystyr adran 3 o’r Ddeddf.
Dosbarth 4
7.—(1)(1) Mae’r
dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad
hwn (“Dosbarth 4”)
wedi ei ffurfio o bob annedd a
fyddai’n unig neu brif
breswylfa unigolyn pe na bai’r unigolyn hwnnw yn preswylio mewn llety’r
lluoedd arfog.
(2) At ddiben y rheoliad hwn—
(a) “llety’r lluoedd arfog” (“armed forces accommodation”) yw llety a ddarperir i—
(i) aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi; neu
(ii) aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi;
at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi;
(b) mae person yn aelod o deulu rhywun arall—
(i) os yw’n briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw; neu
(ii) os yw’n rhiant, yn fam-gu/nain neu’n dad-cu/taid, yn blentyn, yn ŵyr neu’n wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai neu’n nith i’r person hwnnw.
Dosbarth 5
8.—(1)(1) Mae’r dosbarth ar
annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn
(“Dosbarth
5”) wedi ei
ffurfio o bob annedd sy’n cynnwys llain
a feddiennir gan garafán neu angorfa a feddiennir gan
gwch.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dehonglir “carafán” yn unol â dehongliad “caravan” yn adran 7 o’r Ddeddf([3]).
Dosbarth 6
9.—(1)(1) Mae’r
dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn
(“Dosbarth
6”) wedi
ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod
cynllunio sy’n atal
meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn
unrhyw gyfnod o un flwyddyn.
(2) At ddiben y rheoliad hwn ystyr “amod cynllunio” (“planning condition”) yw unrhyw amod a osodir ar ganiatâd cynllunio sydd wedi ei roi neu y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([4]).
Dosbarth 7
10.—(1)(1) Mae’r
dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn
(“Dosbarth
7”) wedi
ei ffurfio o bob annedd—
(a) pan fo person cymhwysol mewn perthynas â’r annedd honno yn preswylio mewn annedd arall sydd, ar gyfer y person hwnnw, yn gysylltiedig â swydd; neu
(b) sydd, ar gyfer person cymhwysol, yn gysylltiedig â swydd.
(2) At ddiben y rheoliad hwn mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person os yw’n dod o fewn un o’r disgrifiadau a nodir ym mharagraffau 1, 2 neu 3 o’r Atodlen.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw—
(a) person sy’n atebol([5]) am dalu treth gyngor mewn cysylltiad ag annedd ar ddiwrnod penodol, p’un ai ar y cyd â pherson arall ai peidio; neu
(b) person a fyddai’n atebol am dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad ag annedd ar ddiwrnod penodol, p’un ai ar y cyd â pherson arall ai peidio, os nad oedd yr annedd honno’n dod o fewn—
(i) Dosbarth O o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992([6]); neu
(ii) Dosbarth E o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992([7]).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2015
YR ATODLEN Rheoliad 10(2)
Anheddau cysylltiedig â swydd
Anheddau sydd wedi eu darparu am resymau penodedig
1.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person os yw wedi ei darparu iddo oherwydd ei gyflogaeth, neu i’w briod neu bartner sifil oherwydd ei gyflogaeth yntau, mewn unrhyw un o’r achosion a ganlyn—
(a) pan fo’n angenrheidiol i’r cyflogai breswylio yn yr annedd honno er mwyn i ddyletswyddau’r gyflogaeth gael eu cyflawni’n briodol;
(b) pan fo’r annedd wedi ei darparu er mwyn i ddyletswyddau’r gyflogaeth gael eu cyflawni’n well, a honno’n un o’r mathau o gyflogaeth lle y mae’n arferol i gyflogwyr ddarparu anheddau ar gyfer cyflogeion; neu
(c) pan fo, oherwydd bygythiad arbennig i ddiogelwch y cyflogai, trefniadau arbennig mewn grym, a bod y cyflogai’n preswylio yn yr annedd fel rhan o’r trefniadau hynny.
(2) Os yw’r annedd wedi ei darparu gan gwmni a bod y cyflogai yn gyfarwyddwr y cwmni hwnnw neu gwmni cysylltiedig, nid yw is-baragraff (1)(a) nac (1)(b) yn gymwys oni bai—
(a) bod y gyflogaeth yn un fel cyfarwyddwr sy’n gweithio’n llawn amser;
(b) bod y cwmni yn un nad yw’n gwneud elw, hynny yw, nid yw’n cynnal masnach, ac nid yw ei swyddogaethau, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, yn golygu dal buddsoddiadau neu eiddo arall; neu
(c) bod y cwmni wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig.
Anheddau sydd wedi eu darparu o dan gontract
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person, os yw’n ofynnol i’r person hwnnw, neu i’w briod neu i’w bartner sifil, o dan gontract y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, fyw yn yr annedd honno.
(2) Mae contract y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn gontract yr ymrwymir iddo ar hyd braich ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r person o dan sylw, neu i’w briod neu i’w bartner sifil (yn ôl y digwydd) gynnal masnach benodol, dilyn proffesiwn penodol neu ddilyn galwedigaeth benodol mewn eiddo sydd wedi ei darparu gan berson arall ac i fyw mewn annedd sydd wedi ei darparu gan y person arall hwnnw.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r annedd o dan sylw, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, wedi ei darparu gan unrhyw berson arall neu bersonau eraill y mae’r priod neu’r partner sifil (yn ôl y digwydd) yn cynnal, ynghyd ag ef neu hwy, fasnach neu fusnes mewn partneriaeth.
Gweinidogion crefydd
3. Mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person—
(a) os yw’r person hwnnw, neu os yw ei briod neu ei bartner sifil, yn weinidog unrhyw enwad crefyddol; a
(b) os yw’r annedd wedi ei chyfanheddu er mwyn caniatáu i’r person hwnnw, neu i’w briod neu i’w bartner sifil (yn ôl y digwydd), gyflawni dyletswyddau ei swydd.
Dehongli
4. Yn yr Atodlen hon—
mae cwmni yn gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw’r ddau o dan reolaeth yr un person;
mae i “cyfarwyddwr”, “cyfarwyddwr sy’n gweithio’n llawn amser” a “rheolaeth”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yr un ystyr ag a roddir i “director”, “full-time working director”, a “control”, yn y drefn honno, yn adrannau 67 a 69 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003([8]) mewn perthynas â’r cod buddion;
ystyr “wedi ei darparu” neu “wedi eu darparu” (“provided”) yw wedi ei darparu neu wedi eu darparu o dan denantiaeth neu fel arall.
([3]) O dan adran 7 o’r Ddeddf dehonglir “caravan” yn unol â Rhan I o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62).